Ysgol Gynradd Wirfoddol Abergwili

Croeso i Ysgol Abergwili

Mae Ysgol Gynradd Wirfoddol Abergwili yn darparu addysg ar gyfer disgyblion rhwng 4-11 blwydd oed yng nghanol pentref Abergwili.

Mae Ysgol Gynradd Wirfoddol Abergwili yn ysgol hapus, credwn fod pob plentyn yn haeddu’r dechrau gorau oll mewn bywyd ac anelwn at sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi a’u meithrin o’r eiliad y maent yn cyrraedd yr ysgol.

Anelwn at ddatblygu gwerthfawrogiad o’r ffordd Gristnogol o fyw a thrwy hyn datblygu unigolyn a fydd yn parchu’r amgylchedd a’i bobl, ac ar yr un pryd yn dod yn ymwybodol o bwysigrwydd cwrteisi. Mae llawer o ymwelwyr i’r ysgol yn sôn am y croeso cynnes a chwrteisi ein disgyblion. Mae’r berthynas rhwng staff, oedolion a disgyblion yn dda ac yn seiliedig ar barch.

Os hoffech wneud cais i’ch plentyn fynychu Ysgol Gynradd Wirfoddol Abergwili, cliciwch yma i gwblhau’r broses derbyn.

Ewch i’n tudalen Facebook agored. Mae gennym hefyd dudalen Facebook gaeedig ar gyfer rhieni a gofalwyr.